Yn gweithio er lles ein cymuned
Yn gweithio er lles ein cymuned
Caiff cymuned Clydach ei gwasanaethu gan 16 Cynghorydd Cymuned sydd yn cynrychioli wardiau unigol o fewn yr ardal. Mae'r Cynghorwyr yn llenwi swydd gyhoeddus ac nid ydynt yn derbyn cyflog am eu gwaith. Ein nod yw gweithio ar y cyd er mwyn gwneud ein cymuned yn le gwell. Mae'r Cyngor Cymuned yn lais ar eich rhan, ac mae ganddo rymoedd i g
Caiff cymuned Clydach ei gwasanaethu gan 16 Cynghorydd Cymuned sydd yn cynrychioli wardiau unigol o fewn yr ardal. Mae'r Cynghorwyr yn llenwi swydd gyhoeddus ac nid ydynt yn derbyn cyflog am eu gwaith. Ein nod yw gweithio ar y cyd er mwyn gwneud ein cymuned yn le gwell. Mae'r Cyngor Cymuned yn lais ar eich rhan, ac mae ganddo rymoedd i gynrychioli'r etholwyr ar faterion cynllunio, lles ac unrhyw fater rhesymol arall allai gyfoethogi'r ardal a gwella ansawdd bywydau y trigolion .
Mae'r Cyngor Cymuned ar hyn o bryd yn rheoli dwy neuadd gymunedol ac ardal chwarae yn ogystal â chynnal a chadw darnau o dir ar hyd a lled y pentref.
Mae'r Cyngor yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Caiff unrhyw elw o'r digwyddiadau ei osod i un ochr ar ffurf cronfa gymunedol a'i ailfuddsoddi yn y gymuned leol trwy d
Mae'r Cyngor Cymuned ar hyn o bryd yn rheoli dwy neuadd gymunedol ac ardal chwarae yn ogystal â chynnal a chadw darnau o dir ar hyd a lled y pentref.
Mae'r Cyngor yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Caiff unrhyw elw o'r digwyddiadau ei osod i un ochr ar ffurf cronfa gymunedol a'i ailfuddsoddi yn y gymuned leol trwy ddyrannu grantiau i grwpiau lleol. Cewch fwy o wybodaeth am ein digwyddiadau isod:
Rydym bob amser yn ddiolchgar am gefnogaeth gwirfoddolwyr. Yn wir, mae yna nifer o sefydliadau o fewn ein cymuned allai elwa o'ch amser. Os oes gennych amser i'w rannu ac rydych yn barod i weithio gydag eraill i wella ein pentref, yna ewch i'r dudalen am wirfoddoli er mwyn gweld sut y gallwch chi helpu.
Cofrestrwch i dderbyn ein Newyddlen gyda mwy o fanylion am ein gwaith a'n digwyddiadau.
Hawlfraint © 2020 Cyngor Cymuned Clydach - Cedwir yr holl hawliau.