image1085
image1086
  • Hafan
  • Ein Cymuned
    • Clydach a'r ardal
    • Atyniadau/ Gweithgareddau
    • Ffilm o Glydach
    • Gwirfoddoli
  • Y Cyngor Cymuned
    • Dogfennau Cyhoeddus
    • Eich Cynghorwyr
    • Seddau Gwag ar y Cyngor
    • Prosiectau
    • Digwyddiadau
    • Cronfa Gymunedol
    • Llogi Neuaddau
    • Llogi'r Bar
    • Cysylltwch â ni
  • COVID-19
    • Ydych chi angen cymorth?
    • Gwirfoddoli
    • Cyngor Iechyd
    • Bwyd a Diod
  • English
  • More
    • Hafan
    • Ein Cymuned
      • Clydach a'r ardal
      • Atyniadau/ Gweithgareddau
      • Ffilm o Glydach
      • Gwirfoddoli
    • Y Cyngor Cymuned
      • Dogfennau Cyhoeddus
      • Eich Cynghorwyr
      • Seddau Gwag ar y Cyngor
      • Prosiectau
      • Digwyddiadau
      • Cronfa Gymunedol
      • Llogi Neuaddau
      • Llogi'r Bar
      • Cysylltwch â ni
    • COVID-19
      • Ydych chi angen cymorth?
      • Gwirfoddoli
      • Cyngor Iechyd
      • Bwyd a Diod
    • English
  • Hafan
  • Ein Cymuned
  • Y Cyngor Cymuned
  • COVID-19
  • English
image1087

Cefnogwch yn lleol

Gwefan newydd sy'n cynnwys gwybodaeth am fusnesau lleol, gan gynnwys eu gallu i ddanfon neu gasglu, yw Keep it Local.

Ewch i Keep it Local
image1088

Gwasanaeth Danfon Co-op (Pobl fregus yn unig)

Os ydych chi'n oedrannus ac yn agored i niwed ac nid oes gennych ffrindiau, deulu neu gymdogion sy'n gallu casglu'ch nwyddau, gallwch ffonio Llinell Gofal Co-op ar 03300 417784. Rheolir hyn gan staff lleol y Co-op. Byddwch yn amyneddgar os bydd unrhyw oedi a cheisiwch gynllunio ymlaen llaw gyda'ch siopa bwyd.

Cynnyrch Ffres

Mae Cyngor Abertawe yn coladu rhestr o fusnesau yn ardal Abertawe a all gymryd eich archeb am fwyd ffres ar-lein neu dros y ffôn. Mae rhai yn danfon ond  rhaid casglu gydag eraill.  Cliciwch ar y ddolen isod i weld y rhestr. Mae'r rhestr hon yn newid yn gyson felly gwiriwch yn rheolaidd am ddiweddariadau.

Busnesau Danfon Bwyd

Andrew's Chilled Foods

Cliciwch ar y botwm isod i lawrlwytho rhestr brisiau o fwydydd wedi'u hoeri gan Andrew's Chilled Foods.

Mae'r rhestr hon yn newid yn gyson wrth i bethau gael eu hychwanegu felly gwiriwch yn ôl yn rheolaidd.

ANDREWS CHILLED (pdf)Download
image1089

Wedi'ch atgyfeirio gan y GIG neu'n profi argyfwng bwyd?

Os ydych wedi derbyn llythyr gan y GIG, yn nodi y gallai fod gennych hawl i gefnogaeth gyda bwyd, yna ffoniwch 01792 636000 a bydd aelod o staff yn llenwi ffurflen atgyfeirio gyda chi. Gallwch hefyd ffonio'r rhif hwn os ydych chi mewn argyfwng bwyd ac angen cefnogaeth frys. Efallai y bydd y rhif hwn hefyd yn gallu rhoi cyngor ar sut y gallech fod â hawl i dalebau ar gyfer y banc bwyd lleol , Tŷ Croeso, ar y Stryd Fawr.

image1090

Eisiau rhoddi bwyd?

Ein banc bwyd lleol yn Clydach yw Tŷ Croeso. Mae Tŷ Croeso ar agor bob dydd Mawrth rhwng 10am a 12pm. Gallwch chi ollwng eitemau o fwyd iddyn nhw yn ystod eu horiau agor neu mae man casglu yn siop y Co-op yng Nghlydach. Mae'r banc bwyd yn arbennig o brin o fwydydd tun a llaeth UHT, ond wrth gwrs maent yn ddiolchgar am bob rhodd.

Hawlfraint © 2020 Cyngor Cymuned Clydach - Cedwir yr holl hawliau.

  • Cysylltwch â ni
  • Polisi Preifatrwydd