Trosolwg o Glydach

image19

Clydach Heddiw

Mae Clydach yn bentref mawr yng Nghwm Tawe ac mae'r gymuned groesawgar a bywiog hon yn rhan o etholaeth Gŵyr. Mae gan Glydach boblogaeth o 7,500 gyda dros 20% o'i drigolion yn siarad Cymraeg. 


Mae ward y Cyngor Cymuned yn cynnwys pentref Clydach, Graigfelen, ac ardal o'r Glais. 


Yn ogystal â'r Cyngor Cymuned, mae gan y ward ddau gynghorydd sir, Cyngh. Paulette Smith (Llafur) a'r Cyngh. Gordon Walker (Annibynnol). 


Mae gan Glydach dair ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ac un ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Mae gan Glais ysgol gynradd hefyd. Mae sawl man addoli yn y pentref, neuaddau  a chanolfannau cymunedol, llyfrgell, a stryd fawr sy'n gartref i amrywiaeth o siopau bwyd a manwerthu. 


Mae digon i drigolion o bob oed i'w wneud yng Nghlydach. Ewch i'r dudalen Atyniadau a Gweithgareddau i ddysgu mwy a chofiwch fod y rhestr yn cyfleu dim ond cyfran o'r hyn sydd ar gael. Am wybodaeth ystadegol, ewch i'r wefan hon

Clydach ar Ffilm
image20

Clydach Ddoe

Ym 1878 roedd Clydach yn bentref tenau ei boblogaeth, yn cynnwys nifer bychan o dai a ffermydd. O fewn 30 mlynedd, chwyddodd poblogaeth Clydach yn sylweddol gyda'r Chwyldro Diwydiannol. Daeth Clydach yn gartref i nifer o lofeydd, gwaith tun plat, gwaith nicel ac yn ganolbwynt gweithgarwch sylweddol gyda thrafnidiaeth ffordd, rheilffordd a chamlas yn cario deunydd craidd o'r cymoedd i'r arfordir. 


Heddiw, mae Clydach yn parhau i  amlygu nifer o nodweddion y chwyldro diwydiannol. Mae Vale Inco (Gweithfeydd Nickel y Mond) yn parhau i fod yn un o'r prif gyflogwyr yn yr ardal. Os hoffech wybod mwy am hanes a threftadaeth y pentref, ewch i wefannau Cymdeithas Hanes Clydach a Chanolfan Dreftadaeth Clydach.