Gydag achosion o COVID-19 ar gynnydd, mae Cyngor Cymuned Clydach yn cydlynu rhwydwaith o wirfoddolwyr lleol er mwyn cynorthwyo pobl sy'n hunanynysu neu sydd yn methu gadael eu cartrefi oherwydd rhesymau iechyd neu oedran. Fel gwirfoddolwr, byddwn yn trefnu eich bod yn derbyn Gwiriad DBS er mwyn sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned mor ddiogel â phosib. Mae'r rhwydwaith hwn o wirfoddolwyr lleol yn achubiaeth i nifer, yn enwedig lle mae unigolyn yn agored i niwed ac nad oes ganddo/i ffrindiau, deulu na chymdogion i'w helpu ar hyn o bryd.
Casglu siopa cyfwerth â maint basged neu ddau fag ar gyfer unigolyn. Mae systemau ar waith i osgoi yr angen i drosglwyddo arian rhwng yr unigolyn a'r gwirfoddolwr.
Casglu meddyginiaeth o Fferyllfa leol. Rhaid i'r person sy'n cael ei g/chefnogi drefnu hyn.
Rhoi galwad ffôn lles ddyddiol i weld a yw'r unigolyn yn iawn, neu angen unrhyw beth.
Mae'r sefyllfa bresennol yn newid o ddydd i ddydd, ac o'r herwydd mae'n rhaid i ni newid hefyd. Efallai y bydd dyletswyddau eraill yn ofynnol gan wirfoddolwyr , er enghraifft, cefnogi archfarchnad leol i ddosbarthu bwyd, cefnogi'r awdurdod lleol gyda chanolfan ddosbarthu bwyd, dosbarthu taflenni, neu weithgarwch tebyg.
Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch ebost at mail@clydach.wales
Byddwch yn derbyn e-bost yn ôl gennym gyda llythyr ynghlwm ynglŷn â bod yn wirfoddolwr a gofynion DBS. Bydd angen i chi ymateb i'r e-bost hwnnw i ddweud eich bod yn hapus inni ddechrau Gwiriad DBS.
Byddwch yn derbyn dolen gan system Gwirio DBS. Bydd angen i chi gwblhau rhywfaint o wybodaeth sylfaenol i ddechrau'r Broses DBS. Gall y gwirio gymryd rhwng ychydig oriau i ychydig wythnosau. Gall hyn fod yn rhwystredig, ond rydyn ni am dawelu meddwl y bobl rydyn ni'n eu cefnogi ein bod ni wedi cymryd pob cam angenrheidiol i'w hamddiffyn.
Unwaith y bydd eich gwiriad yn cael ei dderbyn yn ôl gennym, ac yn cael ei ystyried yn foddhaol, cewch eich hysbysu a'ch ychwanegu at restr e-bost a WhatsApp y gwirfoddolwyr.
Wrth i bobl ofyn am gymorth caiff unigolyn/unigolion eu rhoi dan eich gofal. Peidiwch â phoeni, byddwn hefyd yn darparu pecyn gwirfoddoli gyda gwybodaeth a chanllawiau manwl am eich rôl fel gwirfoddolwr.
Hawlfraint © 2020 Cyngor Cymuned Clydach - Cedwir yr holl hawliau.